Skip to main content

Coleg y Dyfodol ar gyfer Cymru

Adroddiad terfynol ar gyfer gwlad benodol
 image

Beth ydyn ni ei eisiau a’i angen gan golegau o 2030 ymlaen, a sut ydyn ni’n cyflawni hynny? Dyma’r cwestiynau syml, ond allweddol yr aeth y Comisiwn ati i’w hateb pan ddechreuodd ar ei waith yng Ngwanwyn 2019.

Wrth i’r Comisiwn dynnu tuag at derfyn ei waith, yn ei adroddiad terfynol ar gyfer y Deyrnas Unedig, galwodd am weithredu radical a phendant - i alluogi colegau i fod yn rhan o system addysg a sgiliau mwy cydgysylltiedig ar gyfer pob oed, sydd yn y pen draw yn galluogi unigolion i gael mwy o ddylanwad a chyfleoedd drwy gydol eu hoes.

Nawr, mae’r Comisiwn wedi cyhoeddi ei drydydd adroddiad ar gyfer gwlad benodol. Dyma’r adroddiad ar Goleg y Dyfodol ar gyfer Cymru.


Download Report for Wales - Welsh language


Ar hyn o bryd, mae ailstrwythuro system y colegau trwy ddiwygiadau blaenorol yn golygu bod gallu colegau i gynorthwyo pobl, cynyddu cynhyrchiant a chryfhau cymunedau ar gynnydd. Ceir enghreifftiau rhagorol o golegau yn gweithio gyda’i gilydd, gyda busnesau a sefydliadau eraill ar draws y system addysg.

Credwn y dylai’r trywydd polisi presennol o ran cydweithio yng Nghymru fynd ymhellach er mwyn sicrhau bod y system addysg a sgiliau yn parhau i ddatblygu yn unol â’r hyn fydd ei angen ar gyfer dyfodol Cymru a’r byd.

Mae’r adroddiad newydd, Coleg y Dyfodol ar gyfer Cymru, yn galw am newid radical o ran rôl colegau yn y weledigaeth ar gyfer addysg a hyfforddiant yng Nghymru yn y dyfodol er mwyn iddynt allu darparu’r dysgu gydol oes sydd ei angen yn iawn.


ARGYMHELLION ALLWEDDOL

 image

1. Creu gweledigaeth genedlaethol ar gyfer sgiliau a dysgu gydol oes a gwireddu’r weledigaeth trwy system addysg a hyfforddiant ôl-orfodol gyfannol, gysylltiedig a theg gydag un corff cyllido a rheoleiddio.


2. Lleihau anghydraddoldebau a darparu ar gyfer pobl o bob oed trwy sefydlu hawl statudol i ddysgu gydol oes er mwyn sicrhau addysg o ansawdd i bawb, lle nad yw cost fyth yn rhwystr.

 image
 image

3. Sicrhau y caiff colegau eu grymuso i gydweithredu er mwyn cynorthwyo eu cymunedau i ffynnu trwy sefydlu dyletswydd gyfreithiol ar gyrff llywodraethol i ystyried anghenion rhanbarthol


4. Darparu cymorth strategol i fusnesau ym meysydd sgiliau ac arloesi trwy gydlynu cymorth sy’n canolbwyntio ar sectorau neu alwedigaethau penodol trwy hybiau cyflogwyr, gyda cholegau yn cynnull cymorth strategol i gyflogwyr

 image
 image

5.Sbarduno trawsnewidiad digidol rhwydwaith y colegau ac economi Cymru yn ehangach trwy greu hybiau digidol cymunedol mewn colegau a sefydlu cronfa ar gyfer dysgu a seilwaith digidol


Y CAMAU NESAF A SUT I CHWARAE’CH RHAN

Mae golwg wahanol ar sut y caiff gweledigaeth y Comisiwn ei symud ymlaen ym mhob un o’r pedair gwlad. Er bod heriau a chyfleoedd sy’n gyffredin i golegau ym mhob un o’r pedair gwlad, mae’r argymhellion yn yr adroddiadau ar gyfer gwledydd penodol yn wahanol ac yn gweddu’n benodol i’r cyd-destunau polisi a gwleidyddol. Bydd yr adroddiad ar gyfer Gogledd Iwerddon yn dilyn o fewn y misoedd nesaf.

Ymunwch yn y sgwrs trwy ddefnyddio @CollegeComm / #CollegeoftheFuture / #ColegyDyfodol neu anfonwch eich sylwadau atom trwy’r e-bost isod.

Cysylltwch â ni